Psalms 25

Gweddi am arweiniad a help

Salm Dafydd.

1O Arglwydd, dw i'n troi atat ti mewn gweddi.
2Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi;
paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen.
3Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.
Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,
nhw fydd yn cael eu siomi!
4Dw i eisiau dy ddilyn di, Arglwydd;
dysga dy ffyrdd i mi.
5Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,
achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.
Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.
6O Arglwydd, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon –
un felly wyt ti wedi bod erioed!
7Paid dal yn fy erbyn y pechodau
a'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.
Bydd yn garedig ata i, Arglwydd;
rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.
8Mae'r Arglwydd yn dda ac yn hollol deg,
felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
9Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddo
ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.
10Mae'r Arglwydd bob amser yn ffyddlon,
ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth e
yn gallu dibynnu'n llwyr arno.
11Er mwyn dy enw da, O Arglwydd,
maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud
– mae yna gymaint ohono!
12Mae'r Arglwydd yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddo
sut dylen nhw fyw.
13Byddan nhw'n mwynhau bywyd,
a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.
14Mae'r Arglwydd yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;
ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.
15Dw i'n troi at yr Arglwydd am help bob amser,
am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.
16Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,
dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
17Achub fi o'r helbul dw i ynddo;
gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.
18Edrych arna i'n dioddef mewn poen!
Maddau fy holl bechodau!
19Edrych gymaint o elynion sydd gen i!
Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!
20Amddiffyn fi, ac achub fi!
Paid gadael i mi gael fy siomi,
achos dw i wedi troi atat ti am loches.
21Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti;
dw i'n dibynnu arnat ti, Arglwydd!
22O Dduw, gollwng Israel yn rhydd
o'i holl drafferthion!
Copyright information for CYM